Tarian chwarterog a gynhelir gan aderyn dodo ar y chwith a charw sambar ar y dde yw arfbais Mawrisiws. Darlunir gan y darian long i gynrychioli'r oes drefedigaethol, tair phalmwydden, seren wen, ac allwedd. Lliw coch a gwyn mewn patrwm crenelog sydd gan y dodo a'r sambar, ac maent hefyd yn dal cansen siwgr, prif gnwd yr ynys. Saif y cynheiliaid ar ruban sydd yn dwyn yr arwyddair cenedlaethol: Stella Clavisque Maris Indici, sef Lladin am "seren ac allwedd Cefnfor India", y ddau arwydd sydd yn rhan isaf y darian.[1]